Cymuned gyfreithiol gadarn yn cynnig gofal eithriadol i gleientiaid.
Croeso i 9 Park Place, y siambrau bargyfreithwyr i Gymru.
Gyda dros 60 o fargyfreithwyr, gan gynnwys yr ystod ehangaf o Sidanwyr yng Nghymru, mae 9 Park Place yn cynnig cymuned gref o eiriolwyr o’r cryfder a’r dyfnder i arwain yr achosion mwyaf cymhleth. O dan arweiniad ein Pennaeth Siambrau, David Elias CB, mae 9 Park Place yn gosod y bar ar ei uchaf yng Nghymru o ran cyngor cyfreithiol clir a chadarn ac eiriolaeth o safon eithriadol.
Rydym yn ymfalchïo yn ein gofal cleientiaid proffesiynol ond personol, dan arweiniad ein tîm clercio rhagweithiol. Gwnawn bob ymdrech i wella ein safle fel y set ‘sy’n sefyll allan’ yng Nghymru drwy ddatblygu gweledigaeth flaengar a masnachol ar gyfer ein haelodau, a chadwn lygad feirniadol ar ein rôl wrth ddarparu gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru.
“Mae 9 Park Place yn set sy’n sefyll allan ar Gylchdaith Cymru a Chaer ac sydd yn cael ei chanmol am ei ‘hystod rhagorol o gynghorwyr sy’n gallu delio ag agweddau ar bob achos’.”
(Chambers UK 2023)
Wedi ei sefydlu dros 70 mlynedd yn ôl, mae 9 Park Place yn cynnig ystod eang o wasanaethau cyfreithiol mewn nifer o feysydd cyfreithiol gan gynnwys cyfraith teulu, pob agwedd ar gyfraith sifil, masnachol, chyfraith sirol ac eiddo, trosedd a thwyll, cwestau ac ymholiadau, anafiadau personol, sector cyhoeddus a hawliau dynol, rheoleiddio a disgyblu, mewnfudo a chyfraith cyflogaeth.
Siaradwyr Cymraeg
Mae’r bargyfreithwyr a restrir isod yn siaradwyr Cymraeg ac yn hapus i gynnal achosion a phob cyfathrebiad drwy gyfrwng y Gymraeg:
Yn ogystal, mae nifer o fargyfreithwyr eraill yn 9 Park Place yn gallu siarad Cymraeg yn ystod cyfarfodydd ac yn eu cyfathrebiadau â chi. Cysylltwch â ni i ddarganfod mwy.